Pam mae'n bwysig deall pa wybodaeth a sgiliau sydd eu hangen pan fyddwch chi'n gwneud cais am swydd?
Beth yw disgrifiad swydd?
‘Mae disgrifiad swydd yn grynodeb cryno o ddyletswyddau, cyfrifoldebau, cymwysterau, a disgwyliadau sy’n gysylltiedig â rôl benodol mewn sefydliad.’
Pan welwch hysbyseb am swydd, yn y diwydiant chwaraeon neu unrhyw ddiwydiant arall, bydd yn cynnwys disgrifiad swydd. Bydd y ddogfen hon yn dweud popeth wrthych am y sefydliad a manylion pwysig am y rôl.
Bydd y disgrifiad swydd yn nodi:
- Gwybodaeth am y sefydliad neu’r cwmni
- Lleoliad y swydd
- Manylion cyflog, trefniadau pensiwn, gwyliau a thâl salwch a materion cysylltiedig eraill.
- Gwybodaeth am sut i wneud cais am y rôl a’r dyddiad cau ar gyfer y cais.
Gallwch chwilio am swydd ar wahanol wefannau’r sector chwaraeon. Gallwch weld rhai enghreifftiau o wefannau isod. Noder nad yw’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.
Dyma rai pwyntiau i’w cofio wrth ateb gofynion ar ddisgrifiad swydd:
Cymwysterau – ble a phryd y gwnaethoch eu hennill
Sgiliau – beth yw eich sgiliau ac enghreifftiau o ble rydych chi wedi’u defnyddio
Rôl a chyfrifoldebau – dylech gynnwys tasgau allweddol rydych wedi’u cwblhau mewn rôl flaenorol, mewn addysg, neu wrth wirfoddoli a fyddai’n dangos eich gallu i wneud y swydd hon.
Tra y byddwch mewn addysg, y ddau ofyniad pwysicaf yw:
Cymwysterau
Gall cymwysterau swydd gynnwys yr addysg, y sgiliau, y profiad a’r rhinweddau personol sydd gennych i’ch galluogi i wneud swydd yn llwyddiannus. Mae cymhwyster yn gofnod swyddogol eich bod wedi cwblhau cwrs yn llwyddiannus.
Sgiliau
Mae’r rhan fwyaf o gampau’n gofyn am wybodaeth ac ymarfer i gyflawni perfformiad medrus ac i wneud gweithgaredd chwaraeon yn dda. Mae sgiliau’n alluoedd a ddysgwyd rydych chi’n eu cyflawni trwy hyfforddiant ac ymarfer. Gellir diffinio sgil hefyd fel y gallu i berfformio ar safon uchel.
Wrth wneud cais am rolau, defnyddiwch y tabl isod i weld yn glir pa set sgiliau a gwybodaeth berthnasol sydd gennych i fodloni gofynion y swydd.
| Gwybodaeth | Sgiliau | |||||
|---|---|---|---|---|---|---|
| Disgrifiad o’r wybodaeth | Mae gen i’r wybodaeth hon yn barod | Bydd gen i’r wybodaeth hon yn y dyfodol | Disgrifiad o’r sgil | Mae gen i’r sgil hon yn barod | Bydd gen i’r sgil hon yn y dyfodol | |
| Disgrifiad swydd 1 | ||||||
| Disgrifiad swydd 2 | ||||||
| Disgrifiad swydd 3 | ||||||
Cynghorion craff
- Cofiwch fod eich cais am swydd yn gyfle i ddweud y cyfan wrth eich darpar gyflogwr am eich sgiliau.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn paru eich sgiliau â’r hyn y mae’r swydd yn gofyn gennych.
- Dylai eich atebion gynnwys wybodaeth lawn heb fod yn rhy hir, neu bydd y cyflogwr yn colli diddordeb.
- Canwch eich mawl eich hun ond peidiwch â gorliwio. Nid ydych chi eisiau cael cwestiwn na allwch ei ateb os byddwch yn cyrraedd y cam cyfweliad!