Uned 3: Gweithio yn y Diwydiant Chwaraeon

Categories: Uned 3

Gwybodaeth am yr uned

Ffocws yr uned hon fydd yr wybodaeth a’r sgiliau ymarferol gofynnol i fod yn diwtor / hyfforddwr llwyddiannus yn y sector chwaraeon. Byddwn yn edrych ar ymgeisio am swyddi a’r gwahanol fathau o sgiliau. Bydd hefyd yn gyfle i astudio pwysigrwydd datblygu sgiliau rhyngbersonol da. Byddwn yn edrych ar rai fideos o weithwyr chwaraeon proffesiynol yn trafod eu rolau a’u cyfrifoldebau bob dydd.

Dyma gyfle i chi feddwl am aelodau eraill o staff a’r holl ddysgwyr y byddech chi’n gyfrifol amdanynt yn ystod eich sesiynau addysgu. Bydd angen hefyd i chi feddu ar ddealltwriaeth dda o’r gofynion manyleb ar gyfer pob cwrs a’r polisïau a’r gweithdrefnau yn eich sefydliad. Bydd y rhain yn cynnwys polisïau a gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch y byddwn yn eu hastudio yn rhan olaf yr uned hon.

Dangos Mwy