About Lesson
Rolau a chyfrifoldebau - yn fanylach
Nawr gadewch i ni edrych yn fanylach ar rolau a chyfrifoldebau.
Er enghraifft, byddai gan hyfforddwr athletau’r rolau a’r cyfrifoldebau canlynol wrth ddysgu dysgwr sut i daflu waywffon.
Rôl:
Addysgu ac ymarfer yr ystum a’r technegau cywir i’r dysgwr ar gyfer taflu’r waywffon. Er enghraifft:
- Llygaid yn canolbwyntio ar y targed.
- Sefyll ochr yn ochr â’r targed.
- Pwysau ar y droed gefn.
- Camu ymlaen ar y droed gyferbyn i’r fraich daflu.
- Y cluniau, yna’r ysgwyddau’n cylchdroi tua’r blaen.
- Dilyn drwodd gyda’r fraich daflu tuag at y targed.
Cyfrifoldebau:
Sicrhau nad yw athletwyr yn anafu eu hunain wrth daflu’r waywffon.
Ysgogi’r dysgwr i wella a rhagori.
Diwrnod ym mywyd…
Nawr gwyliwch y ddau glip fideo hyn o ddau athletwr ifanc yn siarad am eu gwaith. Astudiwch y fideos yn ofalus a meddyliwch am eu gwahanol rolau a beth yw eu gwahanol gyfrifoldebau.
Meddyliwch am y cynghorion craff maen nhw wedi’u cynnig a sut y gall y rhain eich helpu.