Uned 3: Gweithio yn y Diwydiant Chwaraeon
About Lesson

Mae angen gwahanol sgiliau ar gyfer gwahanol swyddi


I weithio yn y diwydiant chwaraeon bydd angen i chi fod â chymwysterau a sgiliau perthnasol. Bydd y sgiliau y mae’n ofynnol i chi eu dysgu ac ymarfer yn amrywio o un swydd a’r llall. Mae’n dibynnu ar y math o swydd sydd o ddiddordeb i chi.

Gellir dosbarthu sgiliau fel sgiliau penodol a sgiliau generig. Mae enghreifftiau o sgiliau generig yn cynnwys rhyngweithio cymdeithasol a sgiliau rhyngweithio grŵp.

Rock climbing in Pembrokeshire

Sgiliau penodol


Mae sgiliau penodol yn cael eu dysgu trwy astudio, sesiynau hyfforddi gydag ymarfer strwythuredig a rheolaidd. Gall nifer y sgiliau penodol sydd eu hangen arnoch amrywio gan ddibynnu ar y gamp benodol a’r ystod o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gweithgareddau yn eich camp ddewisol.

Dyma rai enghreifftiau o sgiliau penodol:


  • Datblygu dygnwch
  • Cryfder
  • Ystwythder
  • Cyflymder
  • Cydlyniad llaw-llygad
  • Cydbwyso
  • Amser ymateb
  • Gwneud penderfyniadau
  • Ymwybyddiaeth dactegol o’r gêm.



Mae hyfforddiant penodol i’r gamp yn cynnwys ymarferion a threfnau sydd wedi’u teilwra i wahanol gampau. Mae sgiliau penodol hefyd yn cael eu haddysgu i ddysgwyr.



Dyma rai enghreifftiau o sgiliau penodol i’r gamp:

  • cymryd cic gosb mewn pêl-droed
  • taclo gwrthwynebydd yn ddiogel mewn rygbi
  • clymu clymau penodol ar gyfer sesiwn ddringo dan do neu awyr agored
  • gwneud penderfyniad cyflym i ail-gyfeirio cwrs traws-gwlad
  • meddu ar strategaethau amddiffyn i amddiffyn y gôl mewn gêm bêl-rwyd
  • darllen map yr Arolwg Ordnans wrth gerdded/beicio

Gadewch i ni edrych ar rai o’r enghreifftiau hyn yn fwy manwl.


Perfformio ‘stop aradr eira’ ar lethr sgïo

 

  • Pwyso i ganol y sgïau
  • Edrych ymlaen
  • Ymlaen yw’r cyfeiriad canlyniadol
  • Pwyso dros flaen yr esgidiau sgïo


Pêl-droed

Mewn pêl-droed, mae angen dysgu sgiliau penodol i’r gamp i aelodau’r tîm fel pasio’r bêl a saethu at y gôl. Er mwyn perfformio’r sgiliau hyn yn llwyddiannus mewn senario gêm, mae’n bwysig gweithio’n barhaus ar y sgiliau hyn sy’n benodol i’r gamp mewn hyfforddiant.


Rygbi

Mewn rygbi, bydd angen i aelodau’r tîm ddysgu sgiliau sylfaenol penodol y gêm fel pasio’r bêl a thaclo. Nod dysgu sgiliau penodol yw nid yn unig i wella sgiliau ond hefyd i wella cryfder ac ystwythder y chwaraewyr.


Dringo creigiau

Mae camp unigol, fel dringo creigiau, yn gofyn am set wahanol o sgiliau penodol o gymharu â champau tîm fel pêl-droed a rygbi, fel yr ydym eisoes wedi’i drafod.

Enghraifft o sgil penodol y bydd yn rhaid i athletwyr ei meistroli er mwyn dringo creigiau yw defnyddio angorau. Mae angor yn unrhyw ddyfais neu ddull sy’n atodi’r dringwr, rhaff neu lwyth i wyneb dringo – fel arfer wyneb clogwyn creigiau neu lethr iâ serth naill ai’n barhaol neu dros dro.


Sgiliau rhyngweithio generig a chymdeithasol



Nid yn unig y mae sgiliau generig yn berthnasol i’r diwydiant chwaraeon, maent hefyd yn berthnasol i swyddi mewn diwydiannau eraill hefyd.

Porthcawl Surf School

Gall sgiliau ‘generig’ mewn chwaraeon gynnwys pethau fel:

  • gallu dal pêl
  • cael atblygiadau da
  • gallu rhedeg pellteroedd hir
  • gallu dal eich anadl o dan y dŵr

Gall sgiliau rhyngweithio cymdeithasol gynnwys pethau fel:

  • gwaith adeiladu tîm da
  • gweithio’n effeithiol mewn tîm
  • cyfathrebu’n dda yn Gymraeg
  • darparu cymuned waith ofalgar.



Gellir gweld enghreifftiau ymarferol o rôl sgiliau rhyngweithio generig a chymdeithasol yn y meysydd a ganlyn hefyd:

  • dysgu gweithredol
  • datrys gwrthdaro
  • dangos empathi tuag at eraill
  • bod yn barod i dderbyn adborth da a drwg a
  • datrys unrhyw broblemau yn gyflym trwy addasu’n dda