Uned 3: Gweithio yn y Diwydiant Chwaraeon
About Lesson

Polisïau iechyd a diogelwch


Mae iechyd a diogelwch yn y byd chwaraeon, gweithgareddau hamdden a’r holl weithgareddau awyr agored yn hanfodol. Mae’n golygu asesu risgiau posibl, fel anafiadau a salwch, a pharatoi cynlluniau i ddileu neu leihau’r risgiau hynny. Rhaid i diwtoriaid a hyfforddwyr wneud yn siŵr bod pawb sy’n cymryd rhan yn y gweithgaredd yn ddiogel hefyd.
People swimming
People cycling
Horse and rider jumping

Mae cyfranogwyr chwaraeon a gemau yn wynebu risg uwch o gael eu hanafu oherwydd natur y gemau a’r chwaraeon maen nhw’n eu gwneud. Mae’r tiwtor neu’r hyfforddwr yn chwarae rhan bwysig wrth baratoi ac ymateb i sefyllfa anaf. Mae’r wybodaeth hon a’r lefel o wyliadwriaeth yn helpu i leihau nifer y digwyddiadau sy’n arwain at anaf a difrifoldeb yr anaf.