Uned 3: Gweithio yn y Diwydiant Chwaraeon
About Lesson

Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) (2002)


Mae deddfwriaeth PPE 2002 yn darparu canllawiau ar ddylunio, defnyddio a chynnal a chadw cyfarpar diogelu mewn gwahanol ddiwydiannau a chyd-destunau chwaraeon.

1. Yn sicrhau bod PPE a ddefnyddir mewn chwaraeon yn ddiogel, yn addas at y diben, ac yn cydymffurfio â safonau diogelwch, er enghraifft:


Amddiffyniad Pen

Yn ofynnol i leihau’r risg o anafiadau i’r pen.

Enghraifft: Helmedau ar gyfer beicio, pêl-droed, neu ddringo creigiau.


Amddiffyniad Llygaid

Yn amddiffyn rhag effeithiau a gwrthrychau a daflwyd.

Enghraifft: Gogls neu fisorau chwaraeon ar gyfer sgïo, beicio, hoci (yn enwedig gôl-geidwad)


Amddiffyniad Clyw

Yn amddiffyn rhag difrod clyw hirdymor o amgylcheddau swnllyd.

Enghraifft: Plygiau clustiau ar gyfer chwaraeon moduro neu gampau saethu.


Amddiffyniad Corff

Yn gwarchod yn erbyn cleisio, torri esgyrn ac anafiadau mewnol.

Enghraifft: Padin, padiau ysgwydd, amddiffynwyr y frest mewn rygbi, pêl-droed Americanaidd, neu griced.


Amddiffyniad Traed

Yn gwella tyniant, yn lleihau’r risg o ysigiadau ac anafiadau wrth gyflawni gweithgareddau.

Enghraifft: Mae esgid pêl-droed yn rhoi tyniant gwell ac yn lleihau’r tebygolrwydd o lithro a throi’r goes yn ystod gemau. Mae esgidiau cerdded yn darparu amddiffyniad i’r ffêr wrth ddringo mynyddoedd uchel.


Amddiffyniad Dwylo

Yn atal anafiadau i ddwylo, arddyrnau, a bysedd yn ystod gweithgareddau ergyd galed.

Enghraifft: Menig paffio, menig gôl-geidwad mewn pêl-droed, neu amddiffynwyr arddwrn mewn sglefrfyrddio.


2. Cyfrifoldebau’r Cyflogwr a’r sefydliad chwaraeon

  • Sicrhau bod gan athletwyr PPE priodol (fel uchod).
  • Cynnal a chadw ac arolygu offer yn rheolaidd er cydymffurfiiaeth diogelwch, megis gwirio cyn tynnu allan o’r storfa. Gwirio’r holl offer wrth ddychwelyd a chyn storio. Enghraifft fyddai gwirio rhaffau dringo am draul, troelli ac ati.
  • Hyfforddi athletwyr ar ddefnydd cywir o’r holl PPE y byddant efallai’n eu defnyddio.