Sut ydyn ni'n casglu gwybodaeth adborth i werthuso'r sesiwn hyfforddi?
‘Amser Meddwl’
Ar ôl i chi wneud sesiwn chwaraeon neu awyr agored, gyda phwy ydych chi’n siarad am agweddau positif a negyddol y sesiwn honno?
Gallai’r bobl gynnwys y canlynol:
- Aelodau’r Tîm
- Hyfforddwr
- Ffrindiau
- Rhieni
Cofiwch, gellir gosod adborth mewn dau gategori:
- Cryfderau’r sesiwn
- Meysydd i’w gwella
Nawr meddyliwch am:
Sut allwn ni gasglu’r wybodaeth hon yn ffurfiol ar gyfer sesiwn hyfforddi benodol a gyflwynwyd?
Dyma rai dulliau adolygu y gallech eu defnyddio:
- Llyfrau log dyddiadur
- Fideo o’r sesiwn
- Holiadur y gall cyfranogwyr ei lenwi (papur neu ar-lein e.e. Microsoft Forms).
- Adborth gan fentor hyfforddi neu hyfforddwyr cynorthwyol.
- Holiadur hunan-fyfyrio ar gyfer yr hyfforddwr.
- Holiadur atebion gwib i gyfranogwyr.
Taflen Adborth y Campwr ar gyfer yr Hyfforddwr
Dyma ambell syniad gallech chi gynnwys yn eich taflen adborth.
Cofiwch, gall eich taflen adborth gael ei gyflwyno fel copi papur, neu fel ffurflen ar-lein fel Microsoft Forms neu Survey Monkey, er enghraifft.
Ffordd syml o dderbyn adborth yw drwy system rhifau graddio (e.e. 1-5) neu symbolau.
Dyma rai enghreifftiau:
1 2 3 4 5
![]()
Nesaf, bydd angen cwestiynau arnoch i ofyn ar y ffurflen adborth. Dyma rai enghreifftiau o bynciau:
- Cyfathrebu
- Eich perfformiad
- Datblygiad y sesiwn
- Wedi mwynhau neu beidio?
- Sesiwn Gynhesu
- Sesiwn Dawelu
- Arddangosiad
- Cyfarpar
- Lleoliad
Dyma enghraifft o Daflen Adborth Hyfforddi: