About Lesson
Pethau i'w hystyried wrth gynllunio sesiwn gweithgaredd chwaraeon
Bydd cynllunio sesiwn yn aml yn cymryd ddwywaith cymaint o amser â chyflawni sesiwn!
Felly, cofiwch y dyfyniad hwn:
‘Mae Cynllunio Clyfar yn Atal Perfformiad Gwael!’
Beth ydych chi’n meddwl sydd angen ei ystyried wrth gynllunio ar gyfer sesiwn hyfforddi?
Edrychwch ar y rhestr sy’n dweud wrthych am wahanol ystyriaethau y dylech feddwl amdanynt wrth weithio gyda gwahanol fathau o bobl neu gyfranogwyr. Dylai hyn eich helpu i gynllunio’ch sesiwn.
- Nifer y bobl.
- Oedran.
- Rhyw.
- Profiad blaenorol o chwarae’r gamp.
- Lefelau ffitrwydd.
- Gwybodaeth am y gamp (gall hyn ddod o wylio yn hytrach na gwneud).
- Cyflyrau meddygol, (unrhyw anafiadau, cyflyrau meddygol ac ati).
- Addasiadau rhesymol ar gyfer pobl ag anableddau.