About Lesson
Pam mae angen nodau ac amcanion arnom?
Ydych chi wedi clywed am nodau ac amcanion? Ble ydych chi wedi eu clywed yn cael eu defnyddio? Pam ydych chi’n meddwl y byddem yn eu defnyddio?
Diffiniadau
Nod
Rhywbeth rydych am ei gyflawni.
Amcan
Sut rydych chi’n mynd i gyflawni eich nod.
Dyma enghraifft syml o nod, a’r amcanion sydd eu hangen i gyflawni’r nod hwnnw:
Beth oedd eich nod heddiw wrth ddod i’r ysgol/coleg?
- Dysgu.
Beth fydd eich amcan sy’n dilyn y nod?
- Gwrando’n ofalus.
- Mynd i’r afael â phob tasg a roddir i chi.