About Lesson
Cyfrifoldebau hyfforddwr neu berson sy'n arwain sesiwn hyfforddi chwaraeon
Mae hyfforddwyr yn cael eu dal i safonau uchel. Os nad yw’r tîm yn derbyn canlyniadau da, gall hyn olygu bod yr hyfforddwr yn cael ei ddiswyddo.
Mae bod yn hyfforddwr yn swydd gyfrifol. Dyma rai o’r cyfrifoldebau byd modern y mae angen i staff hyfforddi eu hystyried:
Aros o fewn ffiniau‘r hyn a ddisgwylir gan hyfforddwr – ymddygiad proffesiynol.
Cymhwyso moeseg a gwerthoedd fel bod gennych enw da.
Gwneud yn siŵr bod yr amgylchedd a’r offer chwaraeon yn ddiogel i bawb – iechyd a diogelwch.
Gwneud yn siŵr bod plant ac oedolion ifanc yn cael eu gwarchod ac y gofalir amdanynt cyn, yn ystod ac ar ôl sesiwn ymarfer – diogelu a llesiant.
Dylid parchu hawliau pawb a dylai hefyd hyrwyddo hawliau’r unigolyn. Dylai hyfforddwyr sicrhau bod gan bawb gyfle cyfartal i gymryd rhan waeth beth fo’u rhyw, hil, oedran, gallu, ffydd neu gyfeiriadedd rhywiol – cyfle cyfartal.