About Lesson
Rhestr wirio iechyd a diogelwch
Yn ôl yn Uned 1, fe wnaethom drafod gwahanol bolisïau Iechyd a Diogelwch sy’n bodoli i helpu i atal anafiadau y gellir eu hosgoi.
Dyma’r saith darn o ddeddfwriaeth a nodwyd yn Uned 1:
- Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith (1974)
- Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR) (1995).
- Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) (2002)
- Rheoli Sylweddau sy’n Beryglus i Iechyd (COSHH) (2002)
- Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf) (1981)
- Rheoliadau Gweithrediadau Trin â Llaw (1992)
- Deddf Diogelwch Tân a Diogelwch Mannau Chwaraeon (1987)
- Rheoliadau Awdurdodau Trwyddedu Gweithgareddau Anturus (2004)
Gadewch i ni edrych yn fanylach ar y ddeddfwriaeth uchod a gweld beth ddylech fod yn ei gymryd i ystyriaeth wrth drefnu unrhyw ddigwyddiad neu sesiwn.