Mae angen gwahanol sgiliau ar gyfer gwahanol swyddi
I weithio yn y diwydiant chwaraeon bydd angen i chi fod â chymwysterau a sgiliau perthnasol. Bydd y sgiliau y mae’n ofynnol i chi eu dysgu ac ymarfer yn amrywio o un swydd a’r llall. Mae’n dibynnu ar y math o swydd sydd o ddiddordeb i chi.
Gellir dosbarthu sgiliau fel sgiliau penodol a sgiliau generig. Mae enghreifftiau o sgiliau generig yn cynnwys rhyngweithio cymdeithasol a sgiliau rhyngweithio grŵp.
Sgiliau penodol
Mae sgiliau penodol yn cael eu dysgu trwy astudio, sesiynau hyfforddi gydag ymarfer strwythuredig a rheolaidd. Gall nifer y sgiliau penodol sydd eu hangen arnoch amrywio gan ddibynnu ar y gamp benodol a’r ystod o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gweithgareddau yn eich camp ddewisol.
Dyma rai enghreifftiau o sgiliau penodol:
- Datblygu dygnwch
- Cryfder
- Ystwythder
- Cyflymder
- Cydlyniad llaw-llygad
- Cydbwyso
- Amser ymateb
- Gwneud penderfyniadau
- Ymwybyddiaeth dactegol o’r gêm.
Mae hyfforddiant penodol i’r gamp yn cynnwys ymarferion a threfnau sydd wedi’u teilwra i wahanol gampau. Mae sgiliau penodol hefyd yn cael eu haddysgu i ddysgwyr.
Dyma rai enghreifftiau o sgiliau penodol i’r gamp:
- cymryd cic gosb mewn pêl-droed
- taclo gwrthwynebydd yn ddiogel mewn rygbi
- clymu clymau penodol ar gyfer sesiwn ddringo dan do neu awyr agored
- gwneud penderfyniad cyflym i ail-gyfeirio cwrs traws-gwlad
- meddu ar strategaethau amddiffyn i amddiffyn y gôl mewn gêm bêl-rwyd
- darllen map yr Arolwg Ordnans wrth gerdded/beicio
Gadewch i ni edrych ar rai o’r enghreifftiau hyn yn fwy manwl.
Perfformio ‘stop aradr eira’ ar lethr sgïo
- Pwyso i ganol y sgïau
- Edrych ymlaen
- Ymlaen yw’r cyfeiriad canlyniadol
- Pwyso dros flaen yr esgidiau sgïo

Pêl-droed
Mewn pêl-droed, mae angen dysgu sgiliau penodol i’r gamp i aelodau’r tîm fel pasio’r bêl a saethu at y gôl. Er mwyn perfformio’r sgiliau hyn yn llwyddiannus mewn senario gêm, mae’n bwysig gweithio’n barhaus ar y sgiliau hyn sy’n benodol i’r gamp mewn hyfforddiant.

Rygbi
Mewn rygbi, bydd angen i aelodau’r tîm ddysgu sgiliau sylfaenol penodol y gêm fel pasio’r bêl a thaclo. Nod dysgu sgiliau penodol yw nid yn unig i wella sgiliau ond hefyd i wella cryfder ac ystwythder y chwaraewyr.

Dringo creigiau
Mae camp unigol, fel dringo creigiau, yn gofyn am set wahanol o sgiliau penodol o gymharu â champau tîm fel pêl-droed a rygbi, fel yr ydym eisoes wedi’i drafod.
Enghraifft o sgil penodol y bydd yn rhaid i athletwyr ei meistroli er mwyn dringo creigiau yw defnyddio angorau. Mae angor yn unrhyw ddyfais neu ddull sy’n atodi’r dringwr, rhaff neu lwyth i wyneb dringo – fel arfer wyneb clogwyn creigiau neu lethr iâ serth naill ai’n barhaol neu dros dro.
Sgiliau rhyngweithio generig a chymdeithasol
Nid yn unig y mae sgiliau generig yn berthnasol i’r diwydiant chwaraeon, maent hefyd yn berthnasol i swyddi mewn diwydiannau eraill hefyd.
Gall sgiliau ‘generig’ mewn chwaraeon gynnwys pethau fel:
- gallu dal pêl
- cael atblygiadau da
- gallu rhedeg pellteroedd hir
- gallu dal eich anadl o dan y dŵr
Gall sgiliau rhyngweithio cymdeithasol gynnwys pethau fel:
- gwaith adeiladu tîm da
- gweithio’n effeithiol mewn tîm
- cyfathrebu’n dda yn Gymraeg
- darparu cymuned waith ofalgar.
Gellir gweld enghreifftiau ymarferol o rôl sgiliau rhyngweithio generig a chymdeithasol yn y meysydd a ganlyn hefyd:
- dysgu gweithredol
- datrys gwrthdaro
- dangos empathi tuag at eraill
- bod yn barod i dderbyn adborth da a drwg a
- datrys unrhyw broblemau yn gyflym trwy addasu’n dda