Uned 2: Rolau a Chyfrifoldebau Staff Chwaraeon a Hamdden
About Lesson

Beth yw cyfrifoldebau penodol athro/athrawes Addysg Gorfforol?


Mae athrawon Addysg Gorfforol yn gyfrifol am addysgu addysg gorfforol a chwaraeon i fyfyrwyr. Mae’r cyfrifoldebau hyn yn cynnwys:

  • cynllunio gwersi a sesiynau hyfforddi
  • cyflwyno gwersi
  • monitro, cofnodi a gwerthuso gwybodaeth, sgiliau a pherfformiad myfyrwyr.

Rhaid i athrawon Addysg Gorfforol ysgogi ac ysbrydoli myfyrwyr i sicrhau eu bod yn cyflawni eu potensial llawn. Rhaid i athrawon ddarparu’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i’w myfyrwyr ar gyfer ystod eang o chwaraeon a gweithgareddau corfforol hefyd.

Mae’r rhain yn cynnwys gweithgareddau sy’n addas ar gyfer gwahanol grwpiau oedran a gallu. Rhaid iddynt ddangos sgiliau arwain a chyfathrebu rhagorol a darparu gwybodaeth fanwl i’w myfyrwyr o’r pwnc, gan gynnwys y corff dynol hefyd.