Mae gan wahanol rolau wahanol gyfrifoldebau
Enghraifft o Yrfa – Maethegydd Chwaraeon
Gadewch i ni edrych ar rôl maethegydd chwaraeon neu ddietegydd fel enghraifft.
Mae Beca Lyne-Pirkis, sy’n enwog am ei llwyddiant ar y rhaglen ‘Great British Bake Off’ ac fel Dietegydd ar gyfer rhaglen ‘Ffit Cymru’ ar S4C, bellach yn Ddietegydd Chwaraeon proffesiynol. Mae hi hefyd wedi bod yn astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Maeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin.
Fel rhan o’r cwrs, mae Beca yn astudio egwyddorion maeth chwaraeon a ffitrwydd. Dyma’r hyn a ddywedodd am y rôl.
“Rwyf bob amser wedi bod â diddordeb mewn maeth sy’n gysylltiedig â hyfforddiant ar gyfer rhedeg, yn enwedig marathonau, gan fy mod i fy hun wedi cyflawni sawl un dros y blynyddoedd.
Pan oeddwn i’n astudio ar gyfer fy ngradd fel dietegydd, roeddwn bob amser eisiau dysgu mwy am sut roedd effaith bwyd a maeth ar y corff wrth hyfforddi, cystadlu a pherfformio mewn chwaraeon. Mae’r cymysgedd o elfennau fel profi ‘VO2 Max’ yn y labordai profi chwaraeon yn wych o ran dadansoddi’r data a deall pa effaith y gall bwyd ei chael ar rywun ar ôl casglu, a deall canlyniadau’r profion. Rwy’n berson sy’n caru ffigurau a mathemateg, ac yna’n gallu addasu popeth i wahanol brydau a bwydydd i helpu rhywun – mae’n gyfuniad perffaith o bopeth rwy’n ei hoffi!”
(trwy garedigrwydd Prifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant)
Mae dietegwyr chwaraeon hefyd yn helpu i ddatblygu strategaethau. Maent yn rhoi cyngor ymarferol ar beth i’w fwyta i wella perfformiad tra’n cadw’r corff yn iach. Mae eu rôl a’u cyfrifoldebau yn cynnwys asesu anghenion y cleient a’r ffordd orau i’w gefnogi i wella’i berfformiad.
Mae cynifer o gyfleoedd gwaith i chi yn y sector chwaraeon a hamdden. Ond, gall dewis fod yn her!
Yn yr uned olaf, byddwn yn edrych ar fwy o rolau a chyfrifoldebau fel bod gennych well syniad o’r hyn maen nhw’n ei olygu.