Uned 2: Rolau a Chyfrifoldebau Staff Chwaraeon a Hamdden
About Lesson

Sut mae rolau a chyfrifoldebau swydd benodol ym maes chwaraeon a hamdden yn eich helpu i benderfynu ar eich dewisiadau gyrfa?


Mae gwahanol rolau o fewn chwaraeon a hamdden yn gofyn am sgiliau a rhinweddau gwahanol i allu gwneud y gwaith yn dda. Bydd angen i chi ddod o hyd i rôl sydd o ddiddordeb i chi a’ch bod yn frwd drosti.

Mae sgiliau cyfathrebu rhagorol yn allweddol wrth weithio gydag amrywiaeth o wahanol bobl. Bydd gallu cyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg hefyd yn fanteisiol wrth chwilio am waith yng Nghymru.

Mae’r gallu i esbonio pethau’n glir a bod yn uchel eich cymhelliad yn eich rôl i gyflawni rhagoriaeth yn hanfodol.