Gwybodaeth am yr uned
Mae’r diwydiant chwaraeon a hamdden yn cynnig ystod eang o rolau er enghraifft chwaraeon, iechyd a ffitrwydd, gweithgareddau hamdden, addysg a hyfforddiant. Mae’r dewis eang hwn o rolau yn eich galluogi i adlewyrchu eich diddordebau a’ch cryfderau. Bydd gan bob rôl ofynion a manteision academaidd a galwedigaethol gwahanol. Gall dysgu mwy am rolau chwaraeon a hamdden eich helpu i benderfynu pa swydd sydd o ddiddordeb i chi a’ch paratoi i gwrdd â gofynion a chyfrifoldebau’r rôl.