Uned 2: Rolau a Chyfrifoldebau Staff Chwaraeon a Hamdden
About Lesson

Beth yw'r gwahanol rolau sydd ar gael mewn gweithgareddau chwaraeon a hamdden?


Ar ddiwedd 2024 roedd y sector chwaraeon a ffitrwydd yn cyflogi tua 189,600 o bobl yn y Deyrnas Unedig (DU). Mae tua 67,000 o’r rheiny yn cael eu cyflogi fel hyfforddwyr ffitrwydd yn y sector.


Edrychwch ar y graffiau isod i weld tueddiadau cyflogaeth yn y sector chwaraeon a ffitrwydd. Nodwch fod y graffiau isod o ffynhonnell allanol ac ar gael yn Saesneg yn unig.


Statistic: Estimated number of people working in sports and fitness occupations in the United Kingdom from 4th quarter 2021 to 3rd quarter 2024 | Statista


Statistic: Estimated number of fitness and wellness instructors in the United Kingdom from 4th quarter 2021 to 3rd quarter 2024 | Statista
Dewch o hyd i fwy o ystadegau ar Statista


Yn seiliedig ar yr Adroddiad Pwysigrwydd Economaidd Chwaraeon yng Nghymru diweddaraf, roedd tua 30,000 o bobl wedi’u cyflogi yn y sector chwaraeon a ffitrwydd yng Nghymru, sef tua 2% o gyflogaeth yng Nghymru ar y pryd.

Dyma rai enghreifftiau o’r gwahanol fathau o swyddi yn y sector chwaraeon a hamdden:


  • Hyfforddwr personol
  • Hyfforddwr ffitrwydd
  • Maethegydd chwaraeon


  • Hyfforddwr chwaraeon awyr agored
  • Hyfforddwr beicio mynydd
  • Tywysydd mynydd
  • Hyfforddwr hwylio


  • Achubwr bywyd
  • Rheolwr canolfan hamdden
  • Cynorthwyydd canolfan hamdden


  • Athro/Athrawes addysg gorfforol
  • Hyfforddwr crefft ymladd
  • Hyfforddwr pêl-droed
  • Hyfforddwr rygbi
  • Athro/Athrawes nofio


  • Swyddog datblygu chwaraeon
  • Rheolwr digwyddiadau