Beth nesaf a sut i wella eich sgiliau hyfforddi
Efallai eich bod chi’n meddwl, beth alla i ei wneud gyda’r holl wybodaeth hon?
Dyma’r blociau adeiladu sydd eu hangen i greu sesiynau llwyddiannus. Ond, i ddatblygu ymhellach, un o’r pethau pwysicaf y gallwch chi ei wneud fel hyfforddwr yw dadansoddi eich gwendidau.

Nia Davies
Prif Hyfforddwraig Tîm Merched D19 Cymru

Emyr Phillips
Hyfforddwr Sgiliau Cyswllt a Sgrym y Scarlets
Mae angen i hyfforddwyr ddadansoddi’r adborth a nodi unrhyw wendidau. Gallai’r rhain fod o ganlyniad i ddiffyg sgiliau, gwybodaeth, profiad ac ati. Gallai’r diffygion fod oherwydd yr hyfforddwr, nid dim ond y cyfranogwr. Mae gan bawb wendidau, hyd yn oed yr hyfforddwyr proffesiynol gorau!
Beth ydych chi’n meddwl y gallai eich gwendidau fod ar hyn o bryd?
Gallai enghraifft o hyn fod:
Gwybodaeth am ‘sgiliau ymarfer’ mewn camp benodol.
Meddyliwch beth fyddai’n eich helpu gyda hyn.
Dyma rai enghreifftiau o bethau a allai helpu gyda’ch gwendidau:
- Cwblhau cwrs penodol yn y gamp, trwy sefydliad chwaraeon.
- Gweithio gyda hyfforddwyr profiadol yn y gamp honno.
- Arsylwi hyfforddwyr chwaraeon mewn maes penodol. Weithiau gelwir hyn yn ‘cysgodi’.
Efallai y gallech wneud hyn fel rhan o’ch profiad gwaith.