About Lesson
Hyfforddwyr Adnabyddus a'r sgiliau sydd wedi eu gwneud yn arweinwyr yn eu maes
Gadewch i ni ddechrau trwy edrych ar rôl Hyfforddwr. Mae gan bob athletwr a thîm chwaraeon hyfforddwr a all eu helpu i gyrraedd eu potensial llawn.
Pa fath o rinweddau ydych chi’n meddwl sydd eu hangen ar hyfforddwr i fod yn llwyddiannus?
Edrychwch ar y sioe sleidiau hon o rai o hyfforddwyr enwocaf Cymru.
Gwyliwch y fideo hwn o Emyr Phillips, Hyfforddwr Sgiliau Cyswllt a Sgrym y Scarlets, yn esbonio beth sy’n gwneud hyfforddwr da yn ei farn ef.

Bydd pob hyfforddwr llwyddiannus wedi datblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth dros flynyddoedd lawer. Un o’r ffyrdd gorau o ddangos eich profiad, eich gwybodaeth a’ch sgiliau yw trwy greu CV.
Mae CV yn rhoi crynodeb llawn o’ch gyrfa a’ch cymwysterau. Mae’n cael ei ddefnyddio fel arfer i ymgeisio am swyddi, interniaethau, neu swyddi academaidd yn gyffredinol, ond hefyd yn y diwydiant chwaraeon.
Dyma fraslun o’r hyn y dylech ei gynnwys yn eich CV:
Gwybodaeth Gyswllt
- Enw llawn
- Rhif ffôn
- Cyfeiriad e-bost
Addysg
- Cymwysterau a gafwyd gyda graddau a dyddiadau
- Addysg – ysgolion, colegau neu sefydliadau eraill y gwnaethoch eu mynychu gyda dyddiadau.
- Gwaith cwrs perthnasol (dewisol) a allai fod yn berthnasol i’r swydd rydych chi’n gwneud cais amdani.
Profiad Gwaith
- Teitl(au) swydd, enw cwmni/cwmnïau a dyddiadau cyflogaeth – gellir ysgrifennu’r rhain i gyd gyda’i gilydd ar gyfer pob swydd rydych chi wedi’i wneud.
- Dewisol – Cyfrifoldebau a chyflawniadau allweddol ar gyfer pob swydd.
Sgiliau
- Sgiliau technegol (e.e. hyfedredd, defnyddio cyfrifiaduron, ieithoedd – a allwch chi siarad Cymraeg a Saesneg ac ati).
- Sgiliau meddal (e.e., cyfathrebu, arweinyddiaeth, gwaith tîm ac ati).
Ardystiadau a Hyfforddiant (os yn berthnasol)
- Unrhyw ardystiadau neu gyrsiau perthnasol a gwblhawyd, fel Sgiliau Allweddol.
Prosiectau (dewisol)
- Prosiectau personol neu broffesiynol sy’n arddangos eich sgiliau a’ch arbenigedd. (E.e. Wedi gweithio fel hyfforddwr pêl-droed dan 14 oed i dîm pentref lleol).
Gwobrau ac Anrhydeddau (os yn berthnasol)
- Cydnabyddiaeth neu anrhydeddau rydych chi wedi’u derbyn.
Profiad Gwirfoddoli (os yn berthnasol)
- Unrhyw waith di-dâl sy’n dangos sgiliau neu gymryd rhan yn eich cymuned. (E.e. Helpu i drefnu cystadleuaeth golff yn eich clwb lleol, cynorthwyo’r hyfforddwr gymnasteg gyda’r categori dan 11 ac ati).
Geirdaon
- Fel arfer, “Ar gael ar gais” neu gallwch ddarparu manylion cyswllt penodol canolwyr. Yn aml mae angen dwy, weithiau yn gysylltiedig â gwaith neu addysg neu rywun sy’n eich adnabod yn bersonol neu drwy waith gwirfoddoli.