Uned 1: Cynllunio a Chyflawni Sesiwn Chwaraeon
About Lesson

Yr hyn y mae angen i ni ei ystyried i sicrhau bod y sesiwn yn ddiogel ar gyfer cyfranogwyr a hyfforddwyr


Iechyd a Diogelwch yw’r agwedd bwysicaf ar unrhyw sesiwn hyfforddi.


Mae myfyrwyr, rhieni, campwyr amatur i gyd eisiau gwneud eu gweithgareddau awyr agored mewn ffordd ddiogel. Mae anafiadau’n digwydd ac mae hynny’n dderbyniol o fewn chwaraeon.

Fodd bynnag, os bydd anafiadau yn digwydd y gellid eu hosgoi, er enghraifft, oherwydd bod y cae pêl-droed yn anwastad, yna nid yw hynny’n dderbyniol.

Er mwyn helpu sicrhau bod safonau Iechyd a Diogelwch yn cael eu bodloni, mae sawl darn o ddeddfwriaeth y dylech eu cadw mewn cof wrth greu sesiwn.

Deddfwriaeth yw’r gyfraith neu set o gyfreithiau sydd wedi’u pasio gan y Senedd. Mae nifer o’r rhain yn ymdrin â’n maes gwaith o Chwaraeon, Hamdden ac Adloniant a Gweithgareddau Awyr Agored.

Mae’r rhestr isod yn dangos Deddfwriaeth Allweddol yn y DU sy’n effeithio ar chwaraeon. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn ddeddfwriaeth gyffredinol sy’n cael ei chymhwyso i ystod o ddiwydiannau, nid chwaraeon yn unig.

Deddfwriaeth sy’n effeithio ar chwaraeon yn y DU:

  • Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith (1974)
  • Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR) (1995).
  • Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) (2002)
  • Rheoli Sylweddau sy’n Beryglus i Iechyd (COSHH) (2002)
  • Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf) (1981)
  • Rheoliadau Gweithrediadau Trin â Llaw (1992)
  • Deddf Diogelwch Tân a Diogelwch Mannau Chwaraeon (1987)
  • Rheoliadau Awdurdodau Trwyddedu Gweithgareddau Anturus (2004)

Bydd y ddeddfwriaeth hon yn cael ei thrafod ymhellach yn Uned 3.