Uned 1: Cynllunio a Chyflawni Sesiwn Chwaraeon
About Lesson

Pam mae angen nodau ac amcanion arnom?


Ydych chi wedi clywed am nodau ac amcanion? Ble ydych chi wedi eu clywed yn cael eu defnyddio? Pam ydych chi’n meddwl y byddem yn eu defnyddio?


Diffiniadau

Nod



Rhywbeth rydych am ei gyflawni.

Amcan



Sut rydych chi’n mynd i gyflawni eich nod.



Dyma enghraifft syml o nod, a’r amcanion sydd eu hangen i gyflawni’r nod hwnnw:



Beth oedd eich nod heddiw wrth ddod i’r ysgol/coleg?

  • Dysgu.



Beth fydd eich amcan sy’n dilyn y nod?

  • Gwrando’n ofalus.
  • Mynd i’r afael â phob tasg a roddir i chi.