Uned 1: Cynllunio a Chyflawni Sesiwn Chwaraeon
About Lesson

Pethau i'w hystyried wrth gynllunio sesiwn gweithgaredd chwaraeon


Bydd cynllunio sesiwn yn aml yn cymryd ddwywaith cymaint o amser â chyflawni sesiwn!


Felly, cofiwch y dyfyniad hwn:


‘Mae Cynllunio Clyfar yn Atal Perfformiad Gwael!’



Beth ydych chi’n meddwl sydd angen ei ystyried wrth gynllunio ar gyfer sesiwn hyfforddi?

Edrychwch ar y rhestr sy’n dweud wrthych am wahanol ystyriaethau y dylech feddwl amdanynt wrth weithio gyda gwahanol fathau o bobl neu gyfranogwyr. Dylai hyn eich helpu i gynllunio’ch sesiwn.

  • Nifer y bobl.
  • Oedran.
  • Rhyw.
  • Profiad blaenorol o chwarae’r gamp.
  • Lefelau ffitrwydd.
  • Gwybodaeth am y gamp (gall hyn ddod o wylio yn hytrach na gwneud).
  • Cyflyrau meddygol, (unrhyw anafiadau, cyflyrau meddygol ac ati).
  • Addasiadau rhesymol ar gyfer pobl ag anableddau.